Cadw Lefelau Gwent yn Wyllt!

For the English version of this campaign, press here

Mae’r dirwedd arbennig yma mewn perygl o ganlyniad i lawer o gynigion datblygu gwahanol, yn ogystal ag effeithiau newid yn yr hinsawdd.

Ers degawdau, mae Ymddiriedolaeth Natur Gwent wedi bod yn gweithio i adfer, gwella a gwarchod y dirwedd bwysig yma ar gyfer bywyd gwyllt a phobl.

Mae Lefelau Gwent ein hangen ni i gyd nawr.

Mae Senedd Cymru yn cydnabod cyflwr argyfyngus byd natur; y Senedd yw un o’r seneddau cyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng natur yn 2021.

Yn anhygoel, er gwaethaf cael eu diogelu gan y gyfraith, mae Lefelau Gwent yn cael eu rhoi dan bwysau aruthrol gan ddatblygwyr. Mae ceisiadau cynllunio lluosog i ddatblygu’r ardal wyllt bwysig yma wedi’u gwneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf – ac mae angen stopio hyn.

Heb fod ymhell yn ôl, aeth Senedd Cymru ati i ddatgan Lefelau Gwent fel "tirwedd hynafol ag arwyddocâd diwylliannol arbennig" sy'n "bwysig ar gyfer bioamrywiaeth, hamdden, lliniaru llifogydd, storio carbon a chynhyrchu bwyd".

Rydym yn galw arnynt i wneud safiad clir ac amddiffyn y safle yma. Rhaid i Lefelau Gwent aros yn wyllt!

Mae Lefelau Gwent yn gartref i amrywiaeth anhygoel o fywyd gwyllt, o infertebrata dyfrol prin (pryfel dŵr) i amrywiaeth eang o adar, yn enwedig adar rhydio (coesau hir, pig hir) ac adar dŵr (fel hwyaid a gwyddau).

Mae nifer o greaduriaid amrywiol sy'n cael eu gwarchod yn swyddogol DU ac Ewrop yn galw Lefelau Gwent yn gartref hefyd. Mae'r rhain yn cynnwys pathewod, nadroedd y gwair, dyfrgwn, madfallod dŵr cribog, nifer o rywogaethau o ystlumod a   llygod pengrwn y dŵr; oedd wedi diflannu o Lefelau Gwent tan yn ddiweddar, diolch i raglen ailgyflwyno.

Mae llofnodi’r e-weithredu hwn yn golygu eich bod chi, er yn gwbl ymwybodol o’r bygythiadau a achosir gan yr Argyfyngau Hinsawdd a Natur, yn galw ar y Gweinidog a’r Senedd i gymryd camau i atal datblygiadau newydd sylweddol ar Lefelau Gwent. Os hoffech chi ddarllen mwy am yr ymgyrch, cliciwch yma.