Mae pobl ifanc yn galw am y cyfle i ddysgu ym myd natur ac amdano bob dydd
Oeddech chi'n gwybod bod llawer o fyfyrwyr yn treulio llai o amser yn yr awyr agored na charcharorion yn yr unedau diogelwch llymaf?
Mae pobl ifanc yn gwybod eu bod yn haeddu gwell. Ar draws y DU maen nhw'n galw am fwy o gyfleoedd i ddysgu ym myd natur ac amdano. Gall eich cefnogaeth chi helpu i wneud i hynny ddigwydd.
Dyma rai o'r ffyrdd y mae disgyblion wedi dweud wrthym eu bod wedi elwa o ddysgu yn yr awyr agored.
"Rydw i'n gweld bod mynd allan yn yr amgylchedd naturiol yn gwneud i mi ymlacio. Rydw i'n teimlo'n hapus i fod gyda natur"
"Rydyn ni'n gallu bod yn ni ein hunain a dysgu mwy"
Mae nifer o ysgolion eisoes yn cynnal gwersi yn yr awyr agored ac yn gweld yn uniongyrchol yr effaith gadarnhaol y mae'n ei chael ar ddisgyblion a staff gan gynnwys:
Dyna pam mae Our Bright Future yn credu y dylai dysgu ym myd natur ac amdano gael ei ymgorffori ar draws y cwricwlwm, ar gyfer pob oedran a thrwy bob pwnc.
Helpwch i ddangos i lunwyr polisïau bod cefnogaeth eang gan y cyhoedd i ddysgu yn yr awyr agored gael ei ymgorffori yn y system addysg.
Ychwanegwch eich enw a chefnogwch y galw gan bobl ifanc am fwy o ddysgu yn yr awyr agored.