Dyma’r cynllun priffyrdd newydd mwyaf o bell ffordd yng Nghymru gyfan.
Ai priffordd newydd yw'r unig opsiwn?
Mae Llywodraeth Cymru yn honni ei bod wedi cynnal ymchwil ddigonol i'r prosesau modelu ac arfarnu traffig ac wedi dewis parhau â chynlluniau ar gyfer ffordd newydd. Er ein bod yn cydnabod bod problemau ar adegau gyda thagfeydd yn yr ardal hon, nid ydym yn argyhoeddedig y bydd yr cynllun hwn yn mynd i'r afael â'r problemau; rydym yn hyderus y gellid mynd i’r afael â nhw gan ddefnyddio atebion cynaliadwy dychmygus yn lle adeiladau’r ffordd newydd hon, a thrwy wneud hynny ein helpu ni i adeiladu Cymru wytnach.
Beth fyddai effaith y briffordd newydd?
Byddai'r ffordd ddeuol newydd yn:
- achosi difrod nad oes modd ei adfer i fywyd gwyllt a’r dirwedd - gan rwygo trwy goetir hynafol, dolydd blodau gwyllt a hen wrychoedd, a hynny ar draws y dirwedd
- Bygwth rhywogaethau brodorol fel ystlumod, tylluanod, madfallod dwr cribog a moch daear
- Dinistrio ardaloedd enfawr o dir fferm gwerthfawr - gan gynnwys fferm organig sydd wedi ennill gwobrau - a dinistrio daliadau fferm hyfyw
- Niwed busnesau a bywoliaethau, sydd eisoes yn dioddef o ganlyniad i bandemig Covid
- Niweidio cymunedau lleol trwy eu torri yn eu hanner
Llwybr y Llwybr Coch: (yn agor PDF o wefan Llywodraeth Cymru)