Mae Cymru’n gartref i amrywiaeth ryfeddol o fywyd gwyllt, tirweddau hardd ac adnoddau naturiol. O’r barcud coch yn hedfan fry uwch ben a dolffiniaid yn llamu’n fawreddog o’n dyfroedd ni, i blentyn wedi’i gyfareddu gan fuwch goch gota ar flaen ei fys, fe allwn ni i gyd ryfeddu at amrywiaeth y bywyd a’r harddwch o’n cwmpas ni.
Fodd bynnag, bydd hyd yn oed y rhai llai sylwgar yn eich plith chi wedi gweld nad yw popeth yn dda. Efallai eich bod wedi sylwi ar lai o wenyn a gloÿnnod byw ar hyd eich hoff lwybr cerdded, diflaniad adar y to o’r ardd, dim eogiaid yn llamu yn yr afon leol, neu absenoldeb dolydd blodau gwyllt lliwgar eich ieuenctid.
Mae gwyddonwyr wedi rhybuddio am ddymchweliad catastroffig byd natur gyda dirywiad o 60% mewn poblogaethau bywyd gwyllt mewn dim ond 40 o flynyddoedd. Mae gwaith ymchwil arall yn dangos y gall cyfraddau dramatig y dirywiad arwain at ddiflaniad 40% o rywogaethau’r byd o bryfed yn ystod y degawdau nesaf. Mae hon yn broblem fyd-eang a does dim dianc rhagddi i Gymru. Mae’r ffeithiau am ddirywiad byd natur yng Nghymru’n aruthrol gydag:
- 1 o bob 14 rhywogaeth yn mynd i ddiflannu; mae 57% o blanhigion gwyllt, 60% o loÿnnod byw a 40% o adar yn dirywio
- mae mwy na thraean o fertebrata a phlanhigion morol (hysbys) wedi lleihau
- mae 75% o’n cynefinoedd Ewropeaidd o bwysigrwydd rhyngwladol yng Nghymru mewn cyflwr anffafriol. Mae cyflwr ein nodweddion rhywogaethol Ewropeaidd ar safleoedd yng Nghymru’n parhau’n anffafriol i raddau (55%).
- mae Cymru yn y 25% gwaethaf ar gyfer colli bioamrywiaeth allan o’r 218 o wledydd a aseswyd yn fyd-eang. Gofynnwch i’ch Aelodau Cynulliad weithredu dros fywyd gwyllt.
Mae’r darlun heddiw fel hyn oherwydd bod y systemau a’r cyfreithiau ddylai fod yn cadw byd natur yn iach yn methu – gan fethu bywyd gwyllt a phobl. O ganlyniad, mae popeth yn datgysylltu.
Rhaid i ni helpu natur i adfer a rhaid i ni wneud hynny nawr.
Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru’n drafftio cynnwys y Bil Cefn Gwlad newydd. Dyma pam ei bod hi'n hanfodol ein bod ni i gyd yn dod at ein gilydd yn awr i ysgrifennu’r bennod newydd ar gyfer bywyd gwyllt. Rhaid i ni wneud y golygfeydd yn ein fersiwn ni o Wind in the Willows yn ffuglen.
