Lleisiwch eich barn o blaid natur

Dywedwch wrth Lywodraeth Cymru eich bod yn dymuno gweld polisi tir cynaliadwy sy’n caniatáu i bobl a bywyd gwyllt ffynnu gyda’i gilydd.

Cyfle unwaith ac am byth i lunio dyfodol tir Cymru a gwyrdroi dirywiad andwyol bywyd gwyllt

Mae hwn yn gyfle tyngedfennol ar gyfer llunio’r ffordd y byddwn yn defnyddio ein tir yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar ei chynnig ynglŷn â sut y rheolir ein tir i’r dyfodol - a sut yr ariennir y gwaith rheoli hwnnw.

Mae cynigion newydd yn canolbwyntio ar dir Cymru’n cael ei ddefnyddio i ddarparu ‘nwyddau cyhoeddus’ ar gyfer holl bobl Cymru. Mae nwyddau cyhoeddus yn cynnwys pethau fel: glanhau nentydd ac afonydd; storio carbon mewn corsydd mawn i leihau effaith newid hinsawdd; caniatáu i ddarnau o dir gael eu boddi er mwyn atal tai rhag dioddef o lifogydd; a gwella mynediad at leoedd gwyllt a gwyrdd er mwyn i bob un ohonom fedru elwa o fyd natur.

Rydym yn cefnogi’r cynigion hyn a dymunwn gael eich help i ddangos i Lywodraeth Cymru bod pobl Cymru’n gefnogol hefyd. Heb eich cefnogaeth chi mae perygl y bydd rhai o’r cynigion i warchod bywyd gwyllt a’r amgylchedd yn cael eu gwanhau.

Pam fod angen polisi rheoli tir cynaliadwy

Rydym yn colli bywyd gwyllt tir fferm a’u cynefinoedd yn gyflym iawn

Nid yw cyflwr natur yng Nghymru ar hyn o bryd yn dda o bell ffordd, ond os gweithredwn yn awr gallwn newid hynny. Gwelsom ostyngiad brawychus o 56% mewn bywyd gwyllt dros y 50 mlynedd ddiwethaf ac un o’r materion mwyaf problemus yw ffermio.

Rydym yn dibynnu ar amgylchedd iach sy’n llawn bywyd gwyllt 

Mae’r rhan fwyaf o’n hanghenion sylfaenol - aer, dŵr, bwyd - yn dibynnu ar amgylchedd iach a bywyd gwyllt sy’n ffynnu. Mae angen coed, gwrychoedd a phlanhigion arnom i lanhau llygredd yr aer; mae angen nentydd ac afonydd glân arnom i gynnal ein cyflenwadau dŵr; ac mae angen pridd iach a phoblogaethau ffyniannus o beillwyr fel gwenyn a gloÿnnod byw er mwyn medru tyfu bwyd maethlon.

Mae’r hyn sydd ei angen arnom o’r tir yn newid 

Wrth i’n hinsawdd newid ac wrth i’n poblogaeth dyfu, bydd angen i ni ddefnyddio ein tir i storio ac i lanhau rhagor o ddŵr, lleihau’r achosion o lifogydd yn ein cymunedau, storio carbon, glanhau ein haer budr, a llawer iawn mwy.

Drwy gael polisi tir sy’n rhoi blaenoriaeth i warchod yr amgylchedd a defnyddio ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy, gallwn roi yr hyn sydd ei angen ar natur i wella a chreu dyfodol mwy gwyrdd, iachach a hapusach i holl bobl Cymru.

Disodli’r Polisi Amaethyddol Cyffredin

Bydd yr ymgynghoriad yn helpu i lunio’r rhaglen rheoli tir a fydd yn disodli Polisi Amaethyddol Cyffredin (CAP) yr UE. Y CAP yw’r system bresennol i gefnogi ffermwyr, ond nid yw wedi elwa’r amgylchedd na ffermio ychwaith. Mae Brexit yn rhoi cyfle i ddisodli CAP gyda pholisi ‘gwnaed yng Nghymru’ sy’n cyflawni er budd ein heconomi, cymdeithas a’r amgylchedd naturiol.

Credwn y dylid cadw’r gyllideb CAP bresennol o £330m a’i buddsoddi mewn polisi rheoli tir cynaliadwy newydd. A chredwn hefyd y dylid defnyddio’r buddsoddiad i dalu ffermwyr a rheolwyr tir i ddarparu nwyddau cyhoeddus i holl bobl Cymru.

‘Arian cyhoeddus ar gyfer nwyddau cyhoeddus’ yw’r enw y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi hyn. Mewn geiriau eraill: defnyddio arian trethdalwyr i gefnogi ffermwyr a rheolwyr tir i ddarparu nwyddau hanfodol a gwasanaeth i bobl Cymru, er mwyn iddynt fod yn hapus ac yn iach.

Sut allwch chi helpu

Mae tir Cymru yn bwysig i bob un ohonom - ymunwch â ni a galwch am bolisi tir sy’n bodloni anghenion pobl a natur.  

Y peth pwysicaf allwch chi ei wneud cyn 23 Hydref 2018 yw ymateb i ymgynghoriad Brexit a’n Tir gan Lywodraeth Cymru.

Rydym wedi sicrhau ei bod hi’n rhwydd iawn ichi ymateb - gallwch ddefnyddio ein llythyr safonol a’i wneud yn bersonol ichi.

Bydd pob ymateb yn cyfrif felly cofiwch leisio’ch barn o blaid natur a chymryd y cyfle prin hwn i lunio dyfodol ein tir

Gweithredwch nawr

Lleisiwch eich barn o blaid natur

Cadwch mewn cysylltiad â’ch Ymddiriedolaeth Natur!

Byddwn wrth ein bodd yn cadw mewn cysylltiad â chi ynglŷn â’r gwaith a wna’r Ymddiriedolaeth Natur yn eich ardal chi, a ffyrdd eraill y gallwch gymryd rhan mewn natur a’ch Ymddiriedolaeth Natur leol. Anfonir eich manylion cyswllt at eich Ymddiriedolaeth Natur leol. 

Cysylltwch â mi drwy:

Rydym yn gwneud addewid i ddiogelu’ch data, yn unol â Pholisi Preifatrwydd yr Ymddiriedolaeth Natur.

Os ydych eisoes yn aelod neu’n gefnogwr o’r Ymddiriedolaeth Natur ac eisiau diweddaru’r ffordd yr ydych yn cael gohebiaeth gan eich Ymddiriedolaeth Natur, cysylltwch â nhw yn uniongyrchol.

Nature scene in silhouette